Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2019
Amser:
08.30 -
08.49
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Lowri Hughes, Ysgrifenyddiaeth y Siambr Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Ychwanegodd y Llywodraeth ddatganiad gan y Prif Weinidog at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw: Y datblygiadau diweddaraf yn negodiadau Brexit Llywodraeth y DU
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod Aelod Annibynnol wedi cyflwyno dau welliant i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nododd y Llywydd nad oedd eto wedi penderfynu a ddylid dewis y gwelliannau, ond nad oedd, yn hanesyddol wedi gwneud hynny.
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdswmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes, bod angen i'r cynnig hwn, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, gael ei gyflwyno gan y Pwyllgor Busnes ac y byddai'n cael ei gyflwyno yn ei henw hi.
Busnes wedi'i drefnu ddydd Mercher 13 Mawrth
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes, er bod bron i 5 awr o Fusnes y Cynulliad wedi'i drefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw, ei bod yn disgwyl y byddai, yn ymarferol, yn para llai na hynny.
Dadl ar Ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Trefnydd i symud dadl y Pwyllgor Deisebau ar Ganser y Prostad ar 6 Mawrth i'r eitem olaf o fusnes cyn y cyfnod pleidleisio gan fod gan y Gweinidog apwyntiad ysgol i rieni ganol y prynhawn ac yr hoffai ddychwelyd ar gyfer y ddadl. Dywedodd y Rheolwyr Busnes, er eu bod yn fodlon cytuno i'r cais penodol hwn, nad oeddent yn dymuno gosod cynsail ar gyfer ceisiadau o'r math hwn yn aml.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 13 Mawrth 2019 –
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (30 munud)
Dydd Mercher 20 Mawrth 2019 –
· Dadl: Cyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (15 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu ar Ffonau Symudol (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60
munud)
Yn ymwneud â chais Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn, gwnaeth y Rheolwyr Busnes gais y dylid darparu rhagor o wybodaeth am gynnwys a chyd-destun datganiadau o'r fath yn y dyfodol er mwyn helpu i lywio penderfyniadau amserlennu.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol diwygiedig ar y Bil Masnach
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm atodol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 11 Mawrth (y diwrnod cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn) i ganiatáu'r amser hiraf posibl ar gyfer craffu.
Cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
Cais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
Newid aelodaeth pwyllgorau
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd cynnig i ethol Dai Lloyd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Helen Mary Jones yn cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn yfory.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol)
Nododd y Trefnydd bod y Llywodraeth yn dal i ddisgwyl y bydd amserlen dynn rhwng gosod y Memorandwm atodol hwn a dadl yn y Cyfarfod Llawn, o ganlyniad i amserlenni Senedd y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i drafod gyda Llywodraeth y DU ond yn disgwyl y bydd manylion unrhyw newidiadau ar gael i'r Aelodau cyn gynted â phosibl. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y ddau bwyllgor a oedd yn ystyried y Memorandwm gwreiddiol (y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol) gyda'r wybodaeth berthnasol ar hyn o bryd.
Marwolaeth Paul Flynn AS
Yn dilyn ymholiad gan y Trefnydd am ffordd briodol i nodi marwolaeth Paul Flynn AS, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n gwneud datganiad ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw.